Croeso i Barc Ynni Mynydd Mawr
Mae GALILEO empower yn datblygu cynigion ar gyfer Parc Ynni Mynydd Mawr, ar dir sydd wedi’i leoli rhwng dyffrynnoedd Ceiriog a Thanat yng ngogledd-ddwyrain Powys a de Wrecsam, ger y ffin â Swydd Amwythig a thua 8km i’r gorllewin o Groesoswallt.
Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 21 o dyrbinau gwynt gydag uchafswm uchder hyd at flaen y llafn o 230m. Mae technoleg system storio ynni batri a paneli ffotofoltäig solar (BESS) hefyd yn cael eu hystyried yn y Parc Ynni, yn amodol ar gwblhau astudiaethau technegol pellach.
Mae safle Parc Ynni Mynydd Mawr yn elwa o adnodd gwynt ardderchog ac yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pori ucheldir.
Gan y bydd gan Barc Ynni Mynydd Mawr gapasiti rhwng 10 a 350MW mae’n cael ei ddosbarthu yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Cyflwynir y cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Bydd PEDW yn asesu’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Er na fydd Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn penderfynu ar y cais cynllunio, maent yn ymgyngoreion statudol allweddol a byddant yn paratoi Adroddiad Effaith Lleol.
Y disgwyl yw y bydd y cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn 2026.
Pe bai Parc Ynni Mynydd Mawr yn cael ei gymeradwyo, gallai’r Parc Ynni gynhyrchu hyd at 147 MW o ynni gwynt yn unig, digon i bweru hyd at 122,000 o gartrefi.1 Gallai hyn wrthbwyso tua 173,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi Cymru i gyrraedd ei tharged o allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050.2
Bydd Parc Ynni Mynydd Mawr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth agos â’r gymuned leol, gydag ymgynghoriad helaeth ac eang a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan yn natblygiad y prosiect a chyfrannu ato.
